Cofnodion Cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol PCS y Senedd a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2022

 

Yn bresennol: Mike Hedges AS; Heledd Fychan AS; Staff Cymorth Ryland Doyle AS; Jayne Smith (PCS); Darren Williams (PCS). Ymddiheuriadau: Huw Irranca-Davies AS.

 

Ymgyrch genedlaethol PCS ynghylch cyflogau a phensiynau

 

Dywedodd PCS fod Cynhadledd Flynyddol Cynrychiolwyr yr undeb ym mis Mai wedi cytuno i gynnal pleidlais statudol ar weithredu diwydiannol yng ngwasanaeth sifil y DU a meysydd cysylltiedig y sector cyhoeddus, ar faterion cyflog, pensiynau, toriadau i swyddi a thelerau diswyddo, i ddechrau ym mis Medi. Roedd yr undeb eisoes wedi cynnal pleidlais ymgynghorol genedlaethol o holl aelodau'r sector cyhoeddus ym mis Chwefror a mis Mawrth, mewn perthynas â’r un materion ac, er bod y rhai a gymerodd ran wedi bod yn gefnogol iawn i ymgyrch weithredu ddiwydiannol, roedd canran y rhai a bleidleisiodd yn is na’r 50 y cant sydd ei hangen mewn pleidlais statudol. Oherwydd hyn, byddai’r canghennau’n gweithio’n galed dros yr haf i baratoi ar gyfer y bleidlais ac yn arbennig i ymgysylltu â'r aelodau hynny nad oedd wedi pleidleisio y tro cyntaf. Y disgwyl oedd y byddai’r aelodau sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru a'i chyrff noddedig yn cael eu cynnwys yn y bleidlais ochr yn ochr â'r rhai yn sector 'Whitehall'.

 

Cytunodd yr Aelodau i gyflwyno cwestiynau i’r Gweinidogion eu hateb mewn perthynas â’r materion yn yr anghydfod hwn.

 

Adolygiad Llywodraeth y DU o gyrff hyd braich a’r bygythiad i swyddi yn y gwasanaeth sifil

 

Ym mis Ebrill, roedd Jacob Rees-Mogg wedi cychwyn adolygiad o asiantaethau a chyrff hyd braich eraill dan gyfrifoldeb adrannau Llywodraeth y DU, gyda’r bwriad o ddileu, preifateiddio neu uno unrhyw rai yr ystyriwyd nad oedd ‘angen dybryd’ amdanynt yn eu ffurf bresennol, er mwyn cyflawni toriadau mewn gwariant o 10-20 y cant. Yn ôl adroddiadau, y DVLA oedd un o brif dargedau'r fenter hon, ac roedd y Swyddfa Basbort yn wynebu bygythiad tebyg. Ym mis Mai, roedd Cyngres TUC Cymru wedi cario cynnig brys gan PCS, gan addo amddiffyn y ddau gorff yma a'r miloedd o swyddi yng Nghymru sy'n dibynnu arnyn nhw. Yn y cyfamser, ar 13 Mai, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i dorri 91,000 o swyddi yng ngwasanaeth sifil y DU erbyn mis Mawrth 2025, er mwyn dychwelyd i lefelau staffio 2016. Yn dilyn hynny, roedd Swyddfa'r Cabinet wedi cyfarwyddo adrannau a chyrff hyd braich i roi gwybod sut y byddent yn gweithredu gostyngiadau o 20 y cant, 30 y cant a 40 y cant mewn staff a nodi effaith y gostyngiadau ar wasanaethau. Roedd cynhadledd PCS wedi cario cynnig brys, gan gyfarwyddo'r NEC i adeiladu ymgyrch yn erbyn y toriadau arfaethedig. Nid oedd gan y cyhoeddiad unrhyw ganlyniadau uniongyrchol i'r sector datganoledig yng Nghymru, ond ni ellid diystyru rhywfaint o effaith drwy symiau canlyniadol Barnett.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyflogau sector datganoledig Cymru

 

Ym mis Chwefror, roedd PCS wedi anfon hawliad cyflog ar gyfer 2022/23 at Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, yn cwmpasu Llywodraeth Cymru ei hun a nifer o is-gyrff sy’n cyflogi, a oedd yn ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau mewn cyflog o fewn sector datganoledig Cymru trwy 'lefelu i fyny' i'r cyfraddau cyflog gorau sydd ar gael, yn ogystal â cheisio cael dyfarniad costau byw a gwelliannau mewn oriau gwaith a gwyliau blynyddol. Ni chafwyd unrhyw ymateb hyd yn hyn, ond pan gyflwynodd PCS hawliad tebyg y flwyddyn flaenorol, gwrthododd y Gweinidog i gymryd rhan yn y bargeinio un bwrdd, ar draws cyflogwyr yr oedd yr undeb yn ei cheisio, a phenderfynwyd ar ddyfarniadau cyflog fesul cyflogwr yn lle hynny. Fodd bynnag, yn y fforwm partneriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru a'i chyrff a noddir, roedd swyddogion wedi ymrwymo i geisio cyllid cyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol i godi'r lleiafswm band cyflog ar gyfer y cyrff hyd braich amrywiol i’r isafswm graddau cyfatebol o fewn Llywodraeth Cymru ei hun (sydd â'r lefelau cyflog uchaf). Bu oedi sylweddol cyn cadarnhau'r ymrwymiad hwn, ond roedd undebau bellach wedi cael eu gwahodd i gyfarfod gyda Rebecca a Hannah Blythyn, lle'r oeddent yn disgwyl cael diweddariad cadarnhaol, a fyddai'n gam sylweddol tuag at gyflogau cyfartal - er heb ddarparu unrhyw warantau ynghylch lefel unrhyw ddyfarniad costau byw yn 2022/23 ar gyfer staff y sector datganoledig.

 

Croesawodd aelodau'r grŵp y cynnydd ymddangosiadol yn y maes hwn; cytunodd PCS i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt.

 

Diweddariad Covid-19 y gweithle

 

Adroddodd PCS am yr ymdrech gan lywodraeth y DU i gael staff i ddychwelyd nôl i weithleoedd. Roedd y rhan fwyaf o'r adrannau'n gweithredu system o weithio hybrid, lle’r oedd disgwyl i staff dreulio isafswm cyfran benodol o’u hamser yn y swyddfa. Roedd yr undeb yn ceisio gwthio nôl ar hyn ac, yng Nghymru, i sicrhau bod canllawiau iechyd cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar Covid yn cael eu dilyn. Roedd Gweinidogion y DU hefyd yn ceisio dod â’r arfer i ben lle mae rhywun ar absenoldeb salwch oherwydd Covid yn cael ei ddiystyru at ddibenion tâl a disgyblu, a oedd yn peryglu annog staff â Covid arnynt i ddod mewn i'r gweithle er mwyn osgoi canlyniadau i dâl salwch neu gamau disgyblu yn eu herbyn. At hynny, roeddent wedi gwrthod trin Covid Hir fel anabledd, o dan delerau’r Ddeddf Cydraddoldeb. Roedd Llywodraeth Cymru a'r cyrff noddedig yn parhau i ganiatáu i'r rhan fwyaf o staff heb swyddi lle maent yn dod i gyswllt â'r cyhoedd weithio gartref lle bo hynny'n bosib.

 

Gofynnodd Mike am gap 30 y cant o ran cyfraddau deiliadaeth Llywodraeth Cymru. Ymatebodd PCS fod y cyfraddau deiliadaeth ychydig yn is na hyn yn y rhan fwyaf o swyddfeydd ar hyn o bryd.

 

Bygythiad o ddefnydd o ddulliau 'diswyddo ac ailgyflogi’ gan gyrff cyhoeddus Cymru

 

Rhoddodd PCS y wybodaeth ddiweddaraf am fygythiad gan Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddiswyddo ac ail-ymgysylltu (neu 'diswyddo ac ailgyflogi') staff er mwyn sicrhau newid i delerau ac amodau nad oeddent wedi’u rhoi mewn ymgynghoriad o'u gwirfodd. Cafodd gwrthwynebiadau'r undeb eu diystyru yn y ddau achos. Roedd Mike a Heledd ill dau wedi codi cwestiynau am hyn yn y Senedd ac roedd Mike wedi cychwyn datganiad barn, yn condemnio diswyddo ac ailgyflogi, a lofnodwyd gan 19 o aelodau. Roedd PCS hefyd bellach wedi ysgrifennu at Peredur Owen Griffiths, fel Cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd, sy’n goruchwylio’r cyrff hyn, yn gofyn iddo ymchwilio i’r mater. Ymatebodd i gadarnhau y byddai'r Pwyllgor yn mynd ar drywydd y materion hyn yn ystod gwaith craffu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ym mis Hydref/Tachwedd yn ôl pob tebyg.

 

Addawodd yr aelodau i barhau i godi'r mater lle bynnag y bo modd, er mwyn cadw pwysau ar y ddau gyflogwr.

 

Y wybodaeth ddiweddaraf am gontractau allanoli Chwaraeon Cymru

 

Rhoddodd PCS y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp ar gynnig Chwaraeon Cymru i allanoli'r Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol ym Mhlas Menai, Bangor i ddarparwr allanol. Roedd yr undeb yn gwrthwynebu hyn mewn egwyddor ond fe gytunodd i gwrdd â'r rheolwyr yn rheolaidd wrth i'r broses symud ymlaen, er mwyn parhau i fod yn wybodus am y cynigion ac i ddylanwadu arnyn nhw mewn ffordd gadarnhaol lle bynnag y bo modd, ond gan gadw'r hawl i ymgyrchu yn erbyn y canlyniad. Roedd y caffaeliad ffurfiol wedi dechrau ar 21 Ionawr, gwahoddwyd y sefydliadau partner posibl i gofrestru eu diddordeb erbyn 28 Chwefror, a disgwylir i’r broses ddod i ben yn gynnar yn 2023.

 

Roedd yn parhau i fod yn aneglur i PCS pam na ellid cyflawni nod datganedig Chwaraeon Cymru o ddatblygu a gwella safle Plas Menai a'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig, heb drosglwyddo cyflogaeth y staff i 'bartner datblygu' allanol. Roedd yr undeb wedi dechrau codi ei phryderon yn gyhoeddus, gan gyhoeddi datganiad i'r wasg a gweithio gydag Aelodau o'r Senedd i godi proffil y mater hwn, a gofyn am sicrwydd gan Weinidogion. Pan holodd Siân Gwenllian, yr Aelod Seneddol lleol, y Prif Weinidog ynghylch Plas Menai yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd “nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi preifateiddio'r ased pwysig hwn” ond nid oedd rheolwyr Chwaraeon Cymru yn derbyn bod eu cynlluniau yn gyfystyr â phreifateiddio ac o ganlyniad i hyn nid oeddent yn ystyried bod angen newid eu dull o weithredu.

 

Soniodd Heledd am ei hymweliad â Phlas Menai fel aelod o Bwyllgor Diwylliant y Senedd. Roedd y rheolwyr wedi cynnig sicrwydd braidd yn annelwig ynghylch dyfodol y safle a'i staff yn sgil unrhyw gontract allanol. Nid oedd aelodau'r pwyllgor wedi cael y cyfle i siarad yn uniongyrchol â’r staff.